Harneisio Ynni Cymru
Wedi’i leoli oddi ar arfordir Sir Benfro, yn ne-orllewin Cymru, mae’n brosiect blaenllaw a allai drawsnewid gallu’r byd i gynhyrchu trydan adnewyddadwy o’r gwynt. Mae prosiectau Llŷr yn archwilio potensial dwy dechnoleg gwynt alltraeth arloesol.
Gyda’i gilydd, bydd y ddau brosiect 100MW yn cynhyrchu digon o drydan adnewyddadwy i bweru tua 250,000 o gartrefi. Os yn llwyddiannus, byddwn yn gallu cynnig ffermydd gwynt alltraeth, cost-effeithiol iawn i weddill y byd erbyn 2030.
Drwy ddatgloi cynhwysedd ynni newydd, uwch o ddyfroedd dyfnach, ymhellach ar y môr, mae gan brosiectau Llŷr oblygiadau enfawr i ddefnyddwyr ynni’r DU. Nid yn unig y byddant yn helpu’r DU i gyrraedd ei tharged ar gyfer allyriadau sero net, ond byddant yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer gweithgynhyrchu rhanbarthol a chadwyni cyflenwi yng Nghymru a De-orllewin Lloegr wrth i’r galw byd-eang am wynt arnofiol, alltraeth, godi.

PROSIECT
Lleoliad
Mae prosiectau Llŷr wedi’u lleoli wrth ddynesu at Fôr Hafren yn y Môr Celtaidd tua 40 cilometr o’r lan ar ddyfnderoedd ar gyfartaledd rhwng 60-70 metr.
Mae’r safleoedd alltraeth hyn yn mwynhau cyflymder gwynt cyfartalog uchel sydd, fel arfer, yn fwy na 10 metr yr eiliad. Bydd pob prosiect 100MW yn cynnwys 6 i 8 tyrbin cenhedlaeth nesaf sy’n rhy fawr i’w gosod ar dir. Disgwylir i allbwn cyfunol y prosiectau ddarparu pŵer ar gyfer tua 250,000 o gartrefi bob blwyddyn – tua dwywaith cymaint o bŵer ag y gallai fferm wynt ar y tir o’r un maint ddisgwyl ei gynhyrchu.
PROSIECT
Amserlen
Mae’r amserlen hon yn cynrychioli ein hamcangyfrif gorau o sut y bydd y prosiect yn symud ymlaen, yn amodol ar dderbyn y prydlesi a’r trwyddedau priodol gan yr awdurdodau perthnasol.
Os bydd ceisiadau am ganiatâd ar gyfer datblygiad yn llwyddiannus, rhagwelir y bydd y gwaith o adeiladu’r llwyfannau arnofiol a’r seilwaith yn dechrau yn 2024, a bydd y gwaith gosod yn dechrau yn 2025/26.
Cysylltwch â ni
CYSYLLTWCH Â LLŶR WIND
Rydym wedi ymrwymo i gyfathrebu â rhanddeiliaid y prosiect a’r gymuned leol. Os na allwch ddod o hyd i’r wybodaeth yr ydych yn chwilio amdani yma ar y wefan, mae croeso i chi anfon e-bost atom gyda’ch ymholiad a byddwn yn ymateb cyn gynted â phosibl.