Cofrestr y Gadwyn Gyflenwi

Mae adroddiadau annibynnol yn awgrymu y byddai’r GW cyntaf o ynni gwynt arnofiol yn y Môr Celtaidd yn creu cynifer â 3,000 o swyddi a bron £700m o gyfleoedd cadwyn gyflenwi i Gymru a Chernyw dros y degawd nesaf yn unig.

Rydyn ni wedi ymrwymo i fanteisio i’r eithaf ar y cyfle hwn i borthladdoedd a busnesau lleol gefnogi economi gynaliadwy drwy weithio gyda phartneriaid allweddol yn y gadwyn gyflenwi, awdurdodau lleol, cyrff y diwydiant a sefydliadau’r llywodraeth i ddeall capasiti a gallu fel y gallwn feithrin perthnasoedd hirdymor a sicrhau etifeddiaeth gynaliadwy.

Mae ein dull o reoli’r gadwyn gyflenwi yn seiliedig ar ymrwymiad llwyr i gynaliadwyedd ar draws meysydd allweddol diogelwch, yr economi, effeithiau amgylcheddol a chostau. Credwn na ddylai gostio’r ddaear i achub y ddaear.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn gyflenwr posibl a chyflenwi gwasanaethau i Brosiectau Llŷr, cofrestrwch eich manylion drwy ddefnyddio’r ffurflen isod. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth allweddol ddiweddaraf i chi gan gynnwys manylion am ddigwyddiadau’r gadwyn gyflenwi yn y dyfodol.