Cyflenwyr

Mae prosiect Llŷr yn gyfle enfawr i gyflenwyr lleol a rhanbarthol. Mae gan adeiladu a chynnal a chadw’r tyrbinau’r potensial i greu cyflogaeth hirdymor a datblygu sylfaen sgiliau lleol ac arbenigedd peirianneg. Bydd y rhain yn werthadwy ar draws y byd wrth i’r diwydiant gwynt ar y môr symudol dyfu i ateb y galw byd-eang am ynni adnewyddadwy.

Cyflenwyr

Tra bod prosiect Llŷr yn gymharol newydd i’r rhanbarth, rydym yn awyddus i sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd i’r gadwyn gyflenwi leol o’r cychwyn cyntaf. Byddwn yn gweithio gyda’r awdurdodau lleol, grwpiau diwydiant a sefydliadau’r llywodraeth i sicrhau manteision i’r ardal leol.

Yn y dyfodol agos, byddwn yn lansio Cofrestr Cadwyn Gyflenwi i sicrhau bod cwmnïau lleol a chenedlaethol yn cael y cyfle i gofnodi eu diddordeb a chael eu hystyried ar gyfer darparu deunyddiau a gwasanaethau i’r prosiect ar draws pob cam o’r datblygiad, adeiladu a gosod, yn ogystal ag ar gyfer Gweithredu a Chynnal a Chadw (G&M)