Cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol

 

Fel sefydliad, ein nod sylfaenol yw hyrwyddo datblygu cynaliadwy o gynhyrchu ynni adnewyddadwy carbon isel. Felly, mae’n hanfodol ein bod yn gweithredu mewn modd cyfrifol a chynaliadwy ac yn rheoli effaith ein gweithgareddau’n llwyddiannus.

Rydym hefyd yn chwilio am gyfleoedd drwy ein gwaith i sicrhau gwelliant amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd mewn cymdeithas, gan gynyddu lles pobl. Ein nod yw dangos y cyfrifoldebau hyn trwy ein gweithredoedd, wedi’u harwain gan bolisïau’r Cwmni.

Rydym yn canolbwyntio ein gweithgareddau cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol yn y meysydd allweddol canlynol:

  • Sicrhau bod iechyd a diogelwch yn sail i’n holl weithrediadau
  • Amddiffyn yr amgylchedd
  • Cefnogi ac ymgysylltu â chymunedau lleol
  • Hyrwyddo cyfleoedd cyfartal ac arferion cyflogaeth teg
  • Ymgynghori â rhanddeiliaid a gweithio gyda chyflenwyr sy’n cynnal gwerthoedd tebyg
  • Addysgu cenedlaethau’r dyfodol