Adnoddau a Newyddion

Cymuned

Cymuned

Un o nodau allweddol prosiectau Llŷr yw meithrin cysylltiadau cymunedol lleol cryf o’r cychwyn cyntaf. Byddwn yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau cyfathrebu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’n rhanddeiliaid, gan gynnwys arddangosfeydd cyhoeddus, cylchlythyrau, y wefan bwrpasol hon, gweithdai, ymgysylltu â’r cyfryngau, ymweliadau a chyflwyniadau i ysgolion a grwpiau cymunedol lleol. Byddwn hefyd yn sefydlu grwpiau cyswllt cymunedol a, lle bo’n briodol, yn cefnogi digwyddiadau lleol.

Digwyddiadau Rhanddeiliaid yn y Dyfodol

O ystyried y pandemig COVID-19 diweddar, bydd y prosiectau’n asesu offer sydd newydd ddod i’r amlwg i gynnal “ymgynghoriad rhithwir” ystyrlon. Bydd hyn yn cynnwys darparu “AEA Digidol,” a fydd nid yn unig yn cynnig cyfle i atgyfnerthu ymgynghoriad AEA, ar ôl y pandemig, ond a fydd hefyd yn cynnig cyfle i ymgysylltu ag ystod mor eang â phosibl o gynulleidfa.

Bydd tîm Llŷr yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau rhanddeiliaid i egluro manylion y prosiect a rhoi cyfle i sefydliadau ac unigolion ofyn cwestiynau a chynnig adborth.

Cyhoeddir manylion ein digwyddiadau i randdeiliaid ar y wefan hon a chyhoeddir deunydd y cyflwyniad ar y dudalen hon yn dilyn pob digwyddiad.

Yn ystod y misoedd nesaf, wrth i’r prosiectau barhau i ddatblygu eu cynlluniau, bydd gwybodaeth amgylcheddol allweddol yn cael ei rhoi ar y wefan hon i roi’r holl wybodaeth sydd ei hangen ar randdeiliaid i ddeall y prosiectau a’u cyd-destun amgylcheddol ehangach. Rydym yn annog rhanddeiliaid i gyfrannu at y broses gynllunio.

Sut i Gyfranogi

Mae tîm Llŷr yn edrych ymlaen at ymgysylltu â rhanddeiliaid a’r cyhoedd wrth i ni symud ymlaen o’r cam cysyniad cychwynnol, drwy’r broses gydsynio, i’r gwaith adeiladu a gweithredu yn y pen draw.

Gallwch roi adborth uniongyrchol drwy e-bostio Marc Murray, Cyfarwyddwr Prosiect Gwynt Llŷr yn: Llyr@ciercoenergy.com