Adnoddau a Newyddion
Cynllunio
Cynllunio
Bydd angen y caniatâd sylfaenol a ganlyn i adeiladu a gweithredu’r cynnig datblygu:
- Caniatâd Adran 36 gyda chaniatâd cynllunio tybiedig (o dan Ddeddf Trydan 1989 gyda phwerau datganoledig o dan Ddeddf Cymru 2017).
- Trwydded Forol o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009.
- Canfyddiad Asesiad Priodol (AA) o ddim effeithiau andwyol fel rhan o Arfarniad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC) ar gyfanrwydd safle Natura.
Cynhelir trafodaethau dros y misoedd nesaf gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a rhanddeiliaid statudol ac anstatudol eraill. Cynhelir Asesiad Amgylcheddol o’r prosiect i gyd-fynd â’r ceisiadau caniatâd datblygu.
Cynhelir cyfres gynhwysfawr o astudiaethau amgylcheddol yn ystod y misoedd nesaf. Yn unol â gofynion trwydded, bydd monitro amgylcheddol cyfredol yn parhau trwy adeiladu a gweithredu’r prosiect er mwyn osgoi effeithiau andwyol ar fywyd y môr ac adar.