Datganiad gan Floventis, datblygwr Prosiect Ynni Gwynt ar y Môr Llŷr

I’W RYDDHAU AR UNWAITH

11 Tachwedd 2021

Ystad y Goron yn Cadarnhau 4GW o Gyfleoedd Prydlesu yn y Môr Celtaidd

Mae Ystâd y Goron wedi cyhoeddi manylion heddiw am ei chynlluniau ar gyfer prydlesu gwynt arnofiol yn y Môr Celtaidd, gan gadarnhau ei huchelgais i ddatgloi hyd at 4GW capasiti ynni glân newydd yng Nghymru a Lloegr a helpu i sefydlu sector diwydiannol newydd ar gyfer y DU.

Mae Floventis Energy yn croesawu’r cyhoeddiad ac yn edrych ymlaen at chwarae rhan allweddol yn natblygiad y capasiti newydd, i gefnogi targed sero net y DU. Mae ymagwedd raddol Ystad y Goron tuag at ddatblygiad yn y Môr Celtaidd, sy’n cydnabod pwysigrwydd Prydlesi Profi ac Arddangos, yn cyflwyno’r cyfle gorau i ysgogi buddsoddiad newydd sylweddol mewn swyddi, sgiliau, a seilwaith yn y rhanbarth ac ar lefel ehangach y DU.

Drwy’r broses newydd hon, mae gan ddatblygiadau ynni gwynt ar y môr yn y Môr Celtaidd gyfle i gydbwyso’n gadarnhaol anghenion cymunedau ar y tir a’r amgylchedd, trwy ddull cydgysylltiedig a chynlluniedig a all hefyd helpu i gymell buddsoddiad mewn seilwaith grid a phorthladdoedd.

Dywedodd Scott Harper, Cyfarwyddwr Floventis a Phrif Swyddog Gweithredol Cierco Ltd: “- Mae’r cyhoeddiad heddiw yn cadarnhau cam arall eto yn y broses lle bydd penderfyniadau a chynllunio synhwyrol yn paratoi’r ffordd ar gyfer datblygiad trefnus ac effeithiol. Mae parth y Môr Celtaidd yn cyflwyno cyfle newydd yn y DU ar gyfer gwynt ar y môr. Mae’n bwysig felly bod y camau cynllunio hyn yn sicrhau bod y llwybr cyflawni nid yn unig yn darparu ar gyfer cyflawni targedau amgylcheddol, ond hefyd yn sbarduno cyfleoedd diwydiannol a chadwyni cyflenwi.”

Mae strategaeth ddatblygu Floventis Energy ar gyfer y Môr Celtaidd, sy’n cynnwys dau safle profi gwynt arnofiol ac arddangos Llŷr, yn cyd-fynd yn dda iawn â’r cynigion uchelgeisiol hyn ac edrychwn ymlaen at weithio gydag Ystad y Goron i sicrhau bod datblygiadau gwynt arnofiol yn y rhanbarth yn cael eu dwyn ymlaen mewn modd ystyriol a chynaliadwy.

Ynglŷn â Floventis Energy, www.floventis.com

Yn 2021 ffurfiodd Cierco a SBM Offshore y cwmni menter ar y cyd, Floventis Energy, gyda’r nod o ddod yn arweinydd marchnad mewn pŵer gwynt arnofiol ar y môr. Mae’r fenter ar y cyd yn dod â sgiliau ac arbenigedd cyflenwol ynghyd i gynhyrchu’r wybodaeth sydd ei hangen i ddatblygu a chyflwyno prosiectau technoleg cymhleth yn llwyddiannus yn yr amgylchedd alltraeth. Eisoes yn gyrru prosiectau arddangos yn Califfornia a’r DU, mae Floventis yn adeiladu portffolio o brosiectau i fynd â gwynt alltraeth sy’n arnofio trwy broses gam wrth gam – gan gynyddu maint prosiectau i gynigion datblygu graddfa masnachol llawn erbyn 2030.

Ynghylch Gwynt arnofiol Llŷr, www.llyrwind.com

Mae datblygiad Llŷr yn cynnwys dau safle alltraeth, gyda chapasiti o 100 MW yr un, i’r de o Benfro, Cymru, y DU, mewn dyfroedd sydd rhwng 60 a 70m o ddyfnder. Bydd y ddau safle’n cynnig cyfle i brofi ac arddangos technolegau gwynt arnofiol arloesol ar raddfa gyn-fasnachol, gan alluogi’r gadwyn gyflenwi gwynt arnofiol i gronni fesul cam gyda’r nod tuag at raddfa prosiect masnachol.

Ynglŷn â CIERCO, www.ciercoenergy.com

Mae Cierco yn gwmni datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy annibynnol a sefydlwyd yn 2001 gyda nod syml – i ymgysylltu â maes pŵer gwynt arnofiol ar y môr ac i yrru technolegau a phrosiectau i gyrraedd lefelau cost cystadleuol â rhai pŵer confensiynol. Mae gan dîm Cierco sylfaen profiad unigryw o brosiectau lluosog, sy’n tarddu o ddechrau gwynt ar y môr. Mae pencadlys Cierco yn Palm Springs, Califfornia.

Ynglŷn â SBM Offshore, www.sbmoffshore.com 

Mae SBM Offshore yn arweinydd ym maes dylunio, cyflenwi, gosod, gweithredu ac ymestyn oes datrysiadau cynhyrchu symudol ar gyfer y diwydiant ynni alltraeth dros y cylch bywyd llawn. Gwybod sut i harneisio’r ynni uwchben, yn, ac o dan gefnforoedd y byd yw’r hyn sy’n cadarnhau safle SBM Offshore fel cwmni sydd â rhan bwysig i’w chwarae yn natblygiad ynni byd-eang. Mae pencadlys SBM Offshore yn Amsterdam, Yr Iseldiroedd.

CYSWLLT:  

Scott Harper

Cyfarwyddwr

+44 7710 487 567

scott.harper@ciercoenergy.com