Datganiad i’r wasg Gorffennaf 2021

Ystad y Goron yn cyhoeddi bwriad i roi hawliau gwely’r môr ar gyfer prosiect gwynt arnofiol Llŷr ar y môr yn y DU

Ystad y Goron yn cyhoeddi bwriad i roi hawliau gwely’r môr ar gyfer prosiect gwynt arnofiol Llŷr ar y môr yn y DU
Mae Ystad y Goron wedi cadarnhau heddiw ei fod yn bwriadu prydlesu dau safle prawf gwynt arnofiol ac arddangosol yn y Môr Celtaidd i Llŷr Floating Wind Limited. Bydd pob prosiect yn hwyluso arddangosiad o hyd at 100 MW. Yn amodol ar ddyfarnu’r ardaloedd prydles hyn yn ffurfiol gan Ystad y Goron, bydd prosiect Llŷr yn symud ymlaen gydag asesiadau amgylcheddol ac arolygon yn unol â’r prosesau caniatâd rheoleiddiol.

Mae datblygiad Llŷr yn cynnwys dau safle alltraeth, gyda chapasiti o 100 MW yr un, i’r de o Benfro, Cymru, y DU, mewn dyfroedd sydd rhwng 60 a 70m o ddyfnder. Bydd y ddau safle’n cynnig cyfle i brofi ac arddangos technolegau gwynt arnofiol arloesol ar raddfa gyn-fasnachol, gan alluogi’r gadwyn gyflenwi gwynt arnofiol i gronni.

Datblygir prosiect Llŷr gan Floventis Energy Limited, menter ar y cyd sydd newydd ei sefydlu rhwng SBM Offshore a Cierco Ltd. sy’n canolbwyntio ar ddatblygu prosiectau gwynt arnofiol yn y Môr Celtaidd.

Dywedodd Severine Baudic, Rheolwr Gyfarwyddwr Ynni a Gwasanaethau Newydd ar y Môr SBM “Rydym yn falch iawn o’r garreg filltir allweddol gyntaf hon a gyflawnwyd gyda Cierco trwy ein menter ar y cyd Floventis Energy. Bydd ein partneriaeth yn elwa o arbenigedd cyfunol Cierco mewn datblygu prosiectau a SBM Offshore mewn prosiectau alltraeth symudol. Gyda’n gilydd, mae gennym yr uchelgais i ysgogi a chyflymu’r farchnad gwynt arnofiol tra’n adeiladu hanes a phresenoldeb lleol.”

 

Ynglŷn â SBM Offshore

Mae SBM Offshore yn arweinydd ym maes dylunio, cyflenwi, gosod, gweithredu ac ymestyn oes datrysiadau cynhyrchu symudol ar gyfer y diwydiant ynni alltraeth dros y cylch bywyd llawn. Gwybod sut i harneisio’r ynni o fewn ac o dan ddyfroedd y byd yw’r hyn sy’n cadarnhau safle SBM Offshore fel cwmni sydd â rhan bwysig i’w chwarae yn natblygiad ynni byd-eang. O olew a nwy heddiw i wynt a thonnau yfory, mae SBM Offshore mewn sefyllfa unigryw i hwyluso’r trawsnewid ynni.

Darllen mwy

Ynghylch Cierco

Mae Cierco Ltd yn gwmni datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy annibynnol a sefydlwyd yn 2001 gyda’r nod o ddatblygu prosiectau gwynt arnofiol o’r dechrau i’r diwedd; nodi’r technolegau arloesol gorau ar gyfer gofynion safleoedd er mwyn sicrhau’r buddion economaidd mwyaf posibl.

Darllen mwy