Floating Offshore Wind

Manteision Gwynt Alltraeth Symudol

 

Adnodd naturiol heb ei gyffwrdd

Mae gan Ewrop gyfran 80% o adnoddau gwynt ar y môr mewn dyfnder dyfnach na 60 metr (*ffynonellau: MOFA a’r Ymddiriedolaeth Garbon)

Diogelwch ynni

Mae datblygu ynni gwyrdd cartref yn golygu y gallwn gynyddu ein cyflenwadau ynni ein hunain a lleihau ein dibyniaeth ar ffynonellau ynni byd-eang, gan helpu i sefydlogi prisiau a lleihau costau.

Hwylusydd sero net

Bydd gwynt arnofiol yn hanfodol i gyrraedd targedau ac uchelgeisiau allyriadau sero net y DU a Chymru a osodwyd gan Bwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd.

Llai o effaith weledol

Gyda’r ffermydd gwynt ymhellach ar y môr, mae’r effaith weledol ar gymunedau glannau lleol yn lleihau’n sylweddol.

Manteision economaidd a chymdeithasol i gymunedau lleol

Mae amcangyfrifon gan ORE Catapult yn nodi y gallai’r GW cyntaf o wynt arnofiol yn y Môr Celtaidd gyflawni dros 3,000 o swyddi a £682m mewn cyfleoedd cadwyn gyflenwi i Gymru a’r De Orllewin erbyn 2030. Potensial ar gyfer 17,000 o swyddi yn y DU gan gynhyrchu £33.6 biliwn i economi’r DU erbyn 2050.

 

Technoleg

 

Mae ffermydd gwynt ar y môr wedi’u hadeiladu yn nyfroedd y DU ers dechrau’r 2000au, gan ddefnyddio dyluniadau ‘gwaelod sefydlog’ traddodiadol, lle mae’r tyrbinau’n cael eu gosod yn uniongyrchol ar wely’r môr.

Gan gyfuno dwy dechnoleg sydd wedi’u profi ledled y byd, technoleg platfform olew a nwy ar y môr a thyrbinau gwynt, mae gwynt arnofiol ar fin dod yn dechnoleg allweddol wrth gyrraedd Sero Net. Gyda dros 75% o adnodd gwynt y byd mewn dŵr yn ddyfnach na 60 metr, bydd gwynt arnofiol hefyd yn darparu cyfleoedd cadwyn gyflenwi carbon isel newydd, yn cefnogi cymunedau arfordirol ac yn creu manteision hirdymor i’r rhanbarth.