Digwyddiadau Ymgynghori Cyhoeddus Llŷr 1
Bydd ein Hymgynghoriad Cyhoeddus ar gyfer Llŷr 1 yn rhedeg o 15 Ionawr i 11 Chwefror 2024.
Un o’r ffyrdd gorau o ddarganfod mwy am ein cynigion yw ymweld â ni yn un o’n digwyddiadau ymgynghori. Yma, byddwch yn gallu siarad ag aelodau o dîm y prosiect a chael gwybod mwy am y prosiect.
Byddwn yn cynnal tri digwyddiad ymgynghori, yn y lleoliadau, y dyddiadau a’r amseroedd canlynol:
- Canolfan Dysgu Cymunedol Doc Penfro, Sgwâr Albion, SA72 6XF | Dydd Iau 25 Ionawr | 12:00 – 16:00
- Tŷ Ffowndri, Orange Way, Penfro, SA71 4DR |Dydd Gwener 26 Ionawr | 11:00-15:00
- Pafiliwn Chwaraeon Hundleton, Hundleton, SA71 5RD | Dydd Mawrth 30 Ionawr | 15:00-19:00
Gallwch hefyd gasglu copïau o’n llyfryn ymgynghori a’r ffurflen ymateb, yn y lleoliadau canlynol yn ystod yr oriau agor arferol:
Llyfrgell a Chanolfan Wybodaeth Penfro: Ffordd Comin, Penfro, SA71 4EA
Llyfrgell Doc Penfro: Stryd y Dŵr, Doc Penfro, SA72 6DW
Cyflwynwch eich adborth erbyn 23:59 ar 11 Chwefror 2024.