Mae Jodie yn beiriannydd awyrennol a drosglwyddodd ei sgiliau i’r diwydiant ynni adnewyddadwy yn 2011 ar gefn ei hangerdd dros yr amgylchedd. Ers hynny, mae Jodie wedi datblygu systemau celloedd tanwydd PEM, wedi gweithredu ffermydd gwynt ar y tir, ac am y ddwy flynedd ddiwethaf canolbwyntiodd ar ddatblygu pŵer gwynt arnofiol ar y môr. Mae ganddi brofiad mewn rheoli prosiectau, modelu DEVEX a CAPEX ac arbenigedd technegol ar generadur tyrbinau gwynt a thrafodaethau contract cytundeb cyflenwi tyrbinau gwynt a gweithgareddau adeiladu.