Ynghylch
Mae Prosiect Llŷr yn cael ei ddatblygu gan Floventis Energy Ltd. – menter ar y cyd sydd newydd ei sefydlu rhwng SBM Offshore a Cierco Ltd. Mae’r prosiect yn archwilio datblygiad, effeithiolrwydd ac ymarferoldeb technolegau gwynt arnofiol.

Floventis Energy
Ffurfiodd Cierco a SBM Offshore ein cwmni datblygu prosiect gwynt alltraeth menter ar y cyd, Floventis Energy, yn 2021 i ddod yn arweinydd ym maes pŵer gwynt arnofiol. Eisoes yn gyrru prosiectau arddangos yn yr Unol Daleithiau a’r DU, mae Floventis yn adeiladu portffolio o brosiectau i fynd â gwynt alltraeth sy’n arnofio trwy broses gam wrth gam – gan gynyddu maint prosiectau’n raddol, i gynigion datblygu masnachol llawn erbyn 2030.
Mae Floventis Energy wedi ymrwymo i gyfathrebu â rhanddeiliaid y prosiect a’r gymuned leol ac ymateb yn gyflym i unrhyw geisiadau. Os na allwch ddod o hyd i’r hyn yr ydych yn chwilio amdano ar y wefan hon, mae croeso i chi anfon e-bost atom.

SBM Offshore
Mae SBM Offshore yn arwain y byd ym maes ynni arnofiol ar y môr. Mae’n cymryd prosiectau, o ddylunio a chyflenwi i osod a gweithredu, gan ymestyn oes cynhyrchion lle bynnag y bo modd. Mae ei allu i harneisio ynni ar, o fewn ac o dan ddyfroedd y byd yn ei osod fel arweinydd byd-eang ym maes datblygu ynni adnewyddadwy. Wrth i ni drosglwyddo o olew a nwy i wynt a thonnau, mae SBM Offshore mewn sefyllfa unigryw i ysgogi’r newidiadau sydd eu hangen.

Cierco Ltd
Cwmni datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy annibynnol yw Cierco. Fe’i sefydlwyd yn 2001 gyda nod syml – ymwneud â maes ynni gwynt ar y môr a gyrru technolegau a phrosiectau i gystadlu’n uniongyrchol â lefelau cost pŵer confensiynol. Mae Cierco yn defnyddio ei arbenigedd i nodi pa dechnolegau arloesol a fydd yn sicrhau’r buddion economaidd ac amgylcheddol mwyaf posibl mewn unrhyw leoliad penodol.