Cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol
Fel sefydliad, ein nod sylfaenol yw hyrwyddo datblygu cynaliadwy o gynhyrchu ynni adnewyddadwy carbon isel. Felly, mae’n hanfodol ein bod yn gweithredu mewn modd cyfrifol a chynaliadwy ac yn rheoli effaith ein gweithgareddau’n llwyddiannus.
Rydym hefyd yn chwilio am gyfleoedd drwy ein gwaith i sicrhau gwelliant amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd mewn cymdeithas, gan gynyddu lles pobl. Ein nod yw dangos y cyfrifoldebau hyn trwy ein gweithredoedd, wedi’u harwain gan bolisïau’r Cwmni.
Rydym yn canolbwyntio ein gweithgareddau cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol yn y meysydd allweddol canlynol:
- Sicrhau bod iechyd a diogelwch yn sail i’n holl weithrediadau
- Amddiffyn yr amgylchedd
- Cefnogi ac ymgysylltu â chymunedau lleol
- Hyrwyddo cyfleoedd cyfartal ac arferion cyflogaeth teg
- Ymgynghori â rhanddeiliaid a gweithio gyda chyflenwyr sy’n cynnal gwerthoedd tebyg
- Addysgu cenedlaethau’r dyfodol