Our Engagement
Mae ein dull o ymgynghori a datblygu prosiectau yn seiliedig ar ymgysylltu effeithiol. Ein nod yw ymgysylltu ag unrhyw sefydliad neu unigolyn sydd â diddordeb yn y prosiect.
Ein nod yw bodloni a rhagori ar reoliadau cynllunio gydag ymrwymiad i:
- Ymgysylltiad cynnar, parhaus ac eang
- Cynnwys rhanddeiliaid a chymunedau lleol wrth ddatblygu prosiectau a deialog am ein dyfodol ynni, effaith amgylcheddol, dyluniadau a’r gymuned
- Defnyddio dulliau amrywiol ar gyfer cymunedau amrywiol
- Ymateb i bryderon rhanddeiliaid yn ogystal ag anghenion a dyheadau lleol
- Defnyddio amrywiaeth o ddulliau cyfathrebu i roi gwybod i’n rhanddeiliaid, gan gynnwys arddangosfeydd cyhoeddus a rhithwir, cylchlythyrau, y wefan bwrpasol hon, gweithdai, ymgysylltu â’r cyfryngau, ymweliadau a chyflwyniadau i ysgolion a grwpiau cymunedol lleol a digwyddiadau cymunedol lleol.
Diwrnodau Ymwybyddiaeth y Cyhoedd Gorffennaf 2023
Cynhaliwyd Digwyddiadau Ymwybyddiaeth y Cyhoedd ar draws y rhanbarth yn ystod mis Gorffennaf 2023 gan ganiatáu i bartïon â diddordeb ddarganfod mwy am ein cynigion.
Ymgynghoriad Cyhoeddus – Llŷr 1
Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar Llŷr 1 yn rhedeg o 15 Ionawr i 11 Chwefror 2024. Rhaid derbyn yr holl adborth erbyn 23.59 o’r gloch ddydd Sul 11 Chwefror 2023. Byddwn yn cyflwyno Llŷr 2 yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Gellir dod o hyd i’r holl wybodaeth sy’n ymwneud ag ymgynghoriad cyhoeddus ar Llŷr 1 yma.