Addysg

Mae addysg ac allgymorth yn rhan annatod o’r hyn a wnawn. Rydym yn datblygu rhaglenni addysg ac allgymorth sy’n seiliedig ar wynt alltraeth arnofiol, gan annog datblygu hunanddarganfod, hybu lles corfforol ac ysbrydoli’r genhedlaeth iau i ystyried prosiectau ynni a thechnoleg newydd mewn ffordd uniongyrchol. Mae hyn yn cynnwys ymweliadau a phrofiadau i bobl ifanc ystyried y datblygiad yng nghyd-destun eu hamgylchedd lleol a datblygu eu dealltwriaeth o newid hinsawdd byd-eang ac ynni adnewyddadwy.

Mae ein rhaglenni yn anelu at:

  • Codi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd ar gyfer gwynt alltraeth arnofiol yn y Môr Celtaidd.
  • Ysbrydoli pynciau STEM fel gyrfa o ddewis i blant, pobl ifanc, newydd-ddyfodiaid a newidwyr gyrfa – yn enwedig gyda grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a nodweddion gwarchodedig.
  • Hyrwyddo gwaith Floventis Energy fel partner dibynadwy, a chyd-gynhyrchydd cymunedol, gan weithio mewn partneriaeth i sicrhau’r buddion mwyaf posibl i’r economi werdd ar draws y rhanbarth a’r genedl.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a llywodraethau Cymru a’r DU er mwyn cefnogi’r cwricwlwm ac ychwanegu gwerth at y gwaith presennol. Mae’r holl gynlluniau yn unol ag amcanion cynllun datblygu Dinas-ranbarth Bae Abertawe, Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol ac Ardaloedd Menter Cymru.

floventis education

Astudiaeth Achos

Mae Floventis Energy yn gweithio gyda Chanolfan Darwin gyda her dylunio gwynt alltraeth bwrpasol ar gyfer plant ysgol gynradd leol. Mae’r gweithdai yn cynnwys trosolwg o newid yn yr hinsawdd, tanwyddau ffosil a manteision ynni adnewyddadwy gyda ffocws ar liniaru newid yn yr hinsawdd a chyfleoedd gwaith yn y dyfodol. Mae gan ysgolion yr opsiwn i ddewis rhwng dau weithdy gwahanol – un sy’n canolbwyntio ar ddylunio ac adeiladu llwyfan a’r llall yn canolbwyntio ar newid hinsawdd a chynllunio tyrbinau gwynt. Darperir adnoddau addysgol i’r ysgolion sy’n cymryd rhan.

Roedd yr her dylunio gwynt ar y môr yn dilyn ein cystadleuaeth ‘Dwlu ar y Môr Celtaidd’, a oedd yn agored i holl blant Sir Benfro ym mlynyddoedd 3 i 6 ac a gychwynnodd ein partneriaeth â Chanolfan Darwin. Nod y gystadleuaeth oedd i blant ddarparu gwaith celf a oedd yn dangos pam eu bod yn caru’r Môr Celtaidd a’r hyn y mae’n ei olygu i’w cenhedlaeth. Gwahoddwyd enillwyr y gystadleuaeth i gwrdd â’u AS lleol gyda thaith gyffrous o amgylch Tŷ’r Senedd, ac arddangoswyd pob cais yn y Senedd mewn digwyddiad gyda’r AS lleol a Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.

Sgiliau a Hyfforddiant

Wrth i’r diwydiant gwynt ar y môr ddatblygu, bydd yn creu cyfleoedd gwaith cynaliadwy hirdymor.

Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid technoleg, y gadwyn gyflenwi, Llywodraeth Cymru, ORE Catapult, Bargen Ddinesig Bae Abertawe a’r Partneriaethau Dysgu Rhanbarthol yng Nghymru i sicrhau ein bod yn deall ein gofynion llafur yn y dyfodol.

Bydd cydweithio â’r Llywodraeth a darparwyr addysg a hyfforddiant i gefnogi cyflwyno swyddi newydd yn y diwydiant gwynt ar y môr yn cael eu blaenoriaethu wrth i’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol fynd yn eu blaen. Bydd hyn yn cynnwys uwchsgilio gweithwyr presennol a sicrhau llwybr hirdymor trwy addysg a’r byd academaidd.

Byddwn yn cyhoeddi mwy o wybodaeth yn fuan.