Yn siaradwr Cymraeg gyda hanes profedig mewn ynni, dechreuodd Ioan ei yrfa gyda British Coal yn Ne Cymru cyn cael ei benodi’n Bennaeth Adfywio Cymunedol gyda BITC, Prif Weithredwr Menter Ifanc Cymru a Chyfarwyddwr BTCV Cymru. Ymunodd Ioan â Tidal Lagoon Power fel Cyfarwyddwr Datblygu yn 2013 a bu’n gyfrifol am feithrin cadwyn gyflenwi yng Nghymru. Llwyddodd i hyrwyddo Grŵp Cynghori annibynnol Diwydiant Llanw Cymru cyn ymuno â Keolis Amey fel eu Cyfarwyddwr Datblygu yng Nghymru sy’n gyfrifol am ymgysylltu uwch â rhanddeiliaid ac ymgorffori’r fenter ar y cyd yng Nghymru fel gweithredwyr Trafnidiaeth Cymru.