Mae Lisa yn Gyfarwyddwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu uchel ei pharch a phrofiadol yng Nghymru a ddechreuodd ei gyrfa gyda’r ymgynghoriaeth genedlaethol Golley Slater ym 1994. Ers hynny mae hi wedi arwain nifer o dimau cyfathrebu mewnol ac wedi dal swyddi Cyfarwyddwr gyda nifer o asiantaethau cysylltiadau cyhoeddus yng Nghaerdydd, ond gellir dadlau ei bod yn fwyaf adnabyddus am ei gwaith ar Forlyn Llanw Bae Abertawe, prosiect seilwaith mawr (NSIP) a’r Ganolfan Ragoriaeth Rheilffyrdd Byd-eang arfaethedig yng Nghymru.