Mae Severine yn arwain gwasanaethau adnewyddadwy, nwy a digidol yn SBM Offshore ac fe’i penodwyd yn Rheolwr Gyfarwyddwr Egni a Gwasanaethau Newydd ym mis Ionawr 2021. Fel peiriannydd hydrodynameg, mae hi wedi rheoli prosiectau technoleg arloesol. Mae Severine wedi graddio o Ysgol Peirianneg SeaTech Ffrainc ac mae ganddi MSc mewn Peirianneg Sifil o Brifysgol Houston.