Technoleg
Mae gwynt ar y môr yn cael ei gydnabod yn eang fel un o gonglfeini ymdrechion i ddatgarboneiddio cynhyrchiant trydan byd-eang. Fodd bynnag, hyd yn hyn, mae cyfleoedd wedi’u cyfyngu i ardaloedd â dyfnderoedd dŵr cymharol fas (llai na 50 metr). Ar hyn o bryd, mae tyrbinau’n cael eu gosod yn sownd wrth wely’r môr gan ddefnyddio sylfeini pyst mawr, wedi’u drilio’n ddwfn.

Mewn dyfroedd dyfnach nid yw’n bosibl eu gosod ar wely’r môr, fodd bynnag, gellir gosod tyrbinau ar strwythur arnofiol. Mae hyn yn ehangu’r ardaloedd y gellir eu hecsbloetio sydd ar gael i leoli’r tyrbinau sy’n cynyddu eu potensial cynhyrchu ynni yn sylweddol. Amcangyfrifir bod 80% o’r adnodd gwynt alltraeth posibl yn nyfroedd Ewrop mewn 60 metr o ddyfnder neu fwy. Mae gwyntoedd yma, yn nodweddiadol, yn gryfach nag mewn dyfroedd bas, ac yn rhoi’r cyfle i gynhyrchu cynhwysedd ynni uwch.
Mae gan wynt arnofiol ar y môr y potensial i gynhyrchu cyfran sylweddol o ffynhonnell ynni carbon isel y DU, mewn ffordd saff a sicr, i gyflawni uchelgais Llywodraeth y DU i leihau allyriadau carbon 78% erbyn 2035 a sero net erbyn 2050.
Pwrpas Prosiect Arddangos Gwynt ar y Môr Llŷr yw dangos technolegau gwynt arnofiol newydd ar raddfa o fwy na 12MW fesul tyrbin. Bydd pob lleoliad prosiect Llŷr yn cynnwys 6 i 8 tyrbin.
Darperir manylion y technolegau i’w defnyddio yn dilyn cyhoeddi’r Brydles Profi ac Arddangos gan Ystad y Goron.